Y Naw Deg

Podlediad pêl-droed S4C

About the show

Podlediad gyda Sioned Dafydd a Rhydian Bowen-Phillips yn dilyn tîm pêl-droed Cymru ar eu taith i'r Ewros.
A podcast with Sioned Dafydd and Rhydian Bowen-Phillips following the Wales football team on their journey to the Euros.

Y Naw Deg on social media

Episodes

  • Pennod 18: Forza Azzurri

    July 19th, 2021  |  53 mins 36 secs

    Mae'r EUROs ar ben gyda'r Eidal yn bencampwyr! Gwennan Harries sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned am rifyn olaf y gyfres wrth iddynt edrych yn ôl dros holl gyffro'r gystadleuaeth ac edrych ymlaen at obeithion Cymru o gyrraedd Qatar 2022!

  • Pennod 17: Diwedd y Daith i Gymru

    July 1st, 2021  |  51 mins 51 secs

    Ymunwch â Sioned, Rhydian ac Iwan wrth iddynt edrych yn ôl dros ymgyrch Cymru yn EWRO 2020 yn ogystal ag edrych ymlaen at y dyfodol a'r daith i Qatar 2022.

  • Pennod 16: Ymlaen i Amsterdam

    June 22nd, 2021  |  49 mins 37 secs

    Am yr ail dro yn olynol, mae Cymru fach wedi sicrhau ein lle yn Rownd yr 16 olaf yn yr Ewros. Ymunwch â Rhydian, Sioned ac Iwan i edrych yn ôl dros brynhawn anesmwyth yn Rhufain ac ymlaen at gêm enfawr yn Amsterdam.

  • Pennod 15: Curo Twrci ac ymlaen i'r Azzurri!

    June 19th, 2021  |  48 mins 6 secs
    baku, bale, cymru, euro, euro 2020, football, ramsey, uefa, wales, wales away

    Yn dilyn y fuddugoliaeth anhygoel i ddynion Robert Page yn Baku, mae Iwan Roberts yn ôl gyda Sioned a Rhydian i drafod gobeithion Cymru yn Rhufain.

  • Pennod 14: V V VAR a Pheniad Kieffer Moore

    June 14th, 2021  |  55 mins 12 secs
    baku, bale, cymru, euro, euro 2020, football, ramsey, uefa, wales, wales away

    V V VAR a Pheniad Kieffer Moore! 😍

    Iwan Roberts sydd yn ymuno â Sioned a Rhydian i edrych yn ôl ar gêm y Swistr ac ymlaen i'r gêm ENFAWR yn erbyn Twrci! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

    The Naw Deg discuss Christian Eriksen, the possibility of dropping Aaron Ramsey and Super Danny Ward.

  • Y Bois yn Baku

    June 10th, 2021  |  42 mins 7 secs

    Ar ôl dros flwyddyn hir o ysu ac aros, mae'r EUROs wedi cyrraedd! Mae Rhydian a Sioned yn cael cwmni Dylan Ebenezer ac Owain Tudur Jones o Baku gyda holl hanes y trip hyd yn hyn a rhagolwg i'r gêm fawr yn erbyn y Swistir.

  • Pennod 12: VAR a'r Wal Goch yn ôl yng Nghaerdydd

    June 3rd, 2021  |  46 mins 13 secs

    Gyda llai na phythefnos i fynd tan i Gymru gychwyn eu hymgyrch yn Baku, Nic Parry sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned i drafod holl gyffro'r gêm gyfeillgar yn Ffrainc ac edrych ymlaen at weld y Wal Goch yn ôl yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm yn erbyn Albania.

  • Pennod 11: Carfan Cymru

    May 30th, 2021  |  34 mins 46 secs

    Mae'r pendroni a'r dyfalu ar ben wrth i Robert Page enwi'r 26 chwaraewr fydd yn cynrychioli Cymru yn EWRO 2020. John Hartson sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned i drafod y garfan ac edrych ymlaen at y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc ac Albania.

  • Pennod 10: Y Cymry yn Wembley!

    May 26th, 2021  |  56 mins 13 secs
    cymru, football, gareth bale, newport, s4c, sgorio, sports, swansea, wales, wembley

    Iwan Roberts sydd yn ôl ar y Naw Deg yr wythnos hon wrth i Abertawe a Chasnewydd sicrhau eu lle yn Wembley ar y penwythnos. Mae Rhydian a Sioned hefyd yn croesawu Rhian Angharad Davies i'r sioe, fel cystadleuydd gyntaf ein cystadleuaeth, 'Y Cymry oddi Cartref'.

  • Pennod 9: O'r Pencampwyr i'r Play-offs!

    May 18th, 2021  |  54 mins 6 secs
    cymru, euro 2020, football, gareth bale, s4c, sgorio, sports, wales

    Mae yna ddau westai arbennig am bris un ar Y Naw Deg yr wythnos hon wrth i Sioned a Rhydian groesawu Aeron Edwards i drafod buddugoliaeth hanesyddol Cei Conna yn y JD Cymru Premier, ac wrth i gefnogwr brwd yr Elyrch, Meilyr Emrys drafod gobeithion Abertawe o gyrraedd yr Uwch Gynghrair.

  • Pennod 8: Y Wal Goch

    May 13th, 2021  |  53 mins 38 secs
    cymru, euro 2020, football, gareth bale, s4c, sgorio, sports, wales

    Gyda llai na fis i fynd tan EURO 2020, y cerddor, cyflwynydd, cyn-chwaraewr ac aelod brwd o'r Wal Goch, Yws Gwynedd sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned ar y Naw Deg wrth iddynt edrych ymlaen at gychwyn y Bencampwriaeth.

  • Pennod 7: Malcolm Allen

    May 4th, 2021  |  52 mins 6 secs
    belgium, cymru, football, gareth bale, s4c, sgorio, sports, wales

    Yn dilyn boicot cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, mae'r Naw Deg yn ôl! Malcolm Allen sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned wrth iddynt ymateb i'r newyddion mai Robert Page fydd yn arwain Cymru i'r Ewros a cheisio dewis y garfan fydd ar yr awyren.

  • Pennod 6: "Y 'not-so' Super League"

    April 22nd, 2021  |  1 hr 1 min

    Iwan Roberts sydd yn ymuno a Rhydian a Sioned yr wythnos hon i drafod wythnos ryfeddol ym myd pêl-droed Ewropeaidd, yn ogystal â thrafod gobeithion y timau o Gymru wrth i ddiwedd y tymor agosáu.

  • Pennod 5: Pob Lwc Laura McAllister

    April 14th, 2021  |  51 mins 34 secs
    cymru, fifa, football, gareth bale, s4c, sgorio, sports, wales

    Laura McAllister sydd yn ymuno â Sioned a Rhydian yr wythnos hon i drafod ei hymgyrch arbennig i ennill sedd ar Gyngor FIFA ac i drafod effaith Gemma Grainger ar dîm Menywod Cymru.

  • Pennod 4: Angharad James - O Breseli i Ogledd Carolina

    April 7th, 2021  |  44 mins 13 secs
    cymru, football, gareth bale, s4c, sgorio, sports, wales

    Ymunwch a Rhydian a Sioned wrth iddynt edrych yn ôl ar Basg anodd iawn i Abertawe a Chaerdydd, tra bod Angharad James yn ymuno â'r Naw Deg i drafod ei gyrfa hyd yn hyn ac edrych ymlaen at benwythnos mawr i Gemma Grainger a thîm menywod Cymru.

  • Pennod 3: Diolch byth am Dan James!

    April 1st, 2021  |  53 mins 36 secs
    belgium, cymru, football, gareth bale, s4c, sgorio, sports, wales

    Owain Tudur Jones sydd yn ymuno â Sioned a Rhydian yr wythnos hon wrth iddynt edrych yn ôl dros wythnos brysur i'r tîm cenedlaethol ac edrych ymlaen at benwythnos o bêl-droed yn y Gynghrair!